01443 412248
Gwirfoddoli
yn Llancaiach Fawr
Gwneud cysylltiadau, cwrdd â phobl o’r un anian, dysgu rhywbeth newydd. Byddwch yn rhan o gymuned greadigol lewyrchus yng nghanol Cymoedd De Cymru.
Mae cymaint o’r hyn rydyn ni’n ei wneud diolch i’n tîm ymroddedig o wirfoddolwyr, mae pob gwirfoddolwr yn gwneud gwahaniaeth gwerthfawr i Faenordy Llancaiach Fawr.
Rydym wedi ymrwymo i flaenoriaethu lles ein gwirfoddolwyr ac yn cydnabod y llawenydd o gymryd rhan mewn cyfleoedd deniadol, hyblyg. Os ydych chi’n caru hanes a threftadaeth, eisiau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned a bod yn rhan o dîm a fydd yn eich codi a’ch cefnogi, yna gallai gwirfoddoli gyda ni fod ar eich cyfer chi.
Fel aelod gwerthfawr o’n tîm byddwch yn:
Sut mae cymryd rhan?
Ar hyn o bryd rydym yn derbyn ceisiadau am:
E-bostiwch Lesley Edwards Rheolwr Cyffredinol i arwyddo a chychwyn ar eich taith wirfoddoli.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Fe’ch gwahoddir i sesiwn sefydlu ac yn dilyn hynny, cewch fynediad i’n hystod lawn o gyfleoedd a gallwch gofrestru ar gyfer eich sesiwn wirfoddoli gyntaf. Byddwn yn sicrhau eich bod wedi’ch hyfforddi’n llawn ac yn eich paru â chyfaill gwirfoddol i’ch helpu i ddechrau.
Gallwch gysylltu â Lesley Edwards ar edwarl2@caerphilly.gov.uk gydag unrhyw gwestiynau.